Hedd Wyn

Hedd Wyn

Ganrif yn ôl, lladdwyd gŵr ifanc yn un o frwydrau dieflig y Rhyfel Mawr, ymhell o gân yr afon yn ei gwm. Gwastraffwyd miloedd o fywydau tebyg ar yr un diwrnod ac unwyd teuluoedd ar ddwy ochr yr ymladd yn eu colledion a’u galar.

Erys enw Hedd Wyn ar gof ei genedl. Daeth Yr Ysgwrn, cartref y bugail, yn aelwyd y mae’n rhaid pererindota yno yn gyson. Mae’i stori yn ein tristáu, ein cynddeiriogi ac yn ein hysbrydoli o hyd.

Bugail, nid milwr oedd Hedd Wyn. Roedd hefyd yn fardd wrthi’n dysgu yr hen grefft gywrain o drin geiriau. Cyflawnodd gamp wrth gipio’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 ond ergyd chwerw yng nghynffon yr hanes oedd iddo gael ei ladd cyn cael ei gadeirio. Lladdwyd addewid, ac oherwydd hynny daeth ei stori i gynrychioli cymaint o’r doniau ifanc eraill a daflwyd i’r ffosydd.

Er mor ifanc ydoedd, mae ei gerddi yn dangos y byddai’i gyfraniad i farddoniaeth Gymraeg yr 20fed ganrif wedi bod yn un nodedig pe bai wedi cael byw. Er gwaethaf y chwithdod o’i golli, mae themáu cynnes yn ei waith – cariad at wlad, pobl, cyfeillgarwch a heddwch. Dyma’r gwerthoedd yr ydym yn chwilio amdanynt wrth geisio dod i delerau â’r hyn ddigwyddodd ganrif yn ôl.