Ganwyd Mererid Hopwood yng Nghaerdydd, ac mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Llangynnwr. Ar ôl cwblhau gradd mewn Sbaeneg a’r Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, enillodd ddoethuriaeth mewn llenyddiaeth Almaeneg o Goleg y Brifysgol, Llundain.
Mererid oedd y bardd benywaidd cyntaf i ennill cystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn 2001, y Goron yn 2003 a’r Fedal Ryddiaith yn 2008.
Yn 2003, ymddangosodd ei cherdd ‘Dadeni’ yn y ffilm Dal Yma: Nawr, a oedd yn cynnwys yr actorion a’r cerddorion Siân Phillips, Ioan Gruffudd, Matthew Rhys a Rhys Ifans.
Mae hi’n gweithio’n ddiflino i geisio gwneud y gynghanedd yn fwy poblogaidd, yn enwedig ymysg merched a phobl ifanc, a hi oedd Bardd Plant Cymru yn 2005.
Dewiswyd hi gan y Gyfnewidfa i gyfrannu yn y gweithdy cyfieithu Writers’ Chain cyntaf a gynhaliwyd yn India yn 2008 lle y cydweithiodd â beirdd o’r DU ac India.
Mae hi hefyd yn cyfieithu gwaith i’r Gymraeg. Yn 2005, cyfieithodd y llyfr i blant, Seren Lowri gan Klaus Baumgart, o’r Almaeneg i’r Gymraeg a llynedd cyfieithodd Y Cylch Sialc gan Brecht i Theatr Genedlaethol Cymru. Hi hefyd oedd enillydd Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru yn 2013, gyda chyfieithiad o dair cerdd gan y bardd Cuban, Victor Rodriguez Nunez.
Enillodd Nes Draw, ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yn yr adran Farddoniaeth, a dewiswyd y gyfrol ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru 2016.
Mae hi wedi bod yn dysgu am ran helaeth o’r ddeng mlynedd ar hugain diwethaf ym maes iaith a llenyddiaeth, gan ddysgu mewn pob math o amgylchiadau, o brifysgol i ysgol nos, o gyrsiau i’r plant lleiaf i ddisgyblion uwchradd.
Enillodd Wobr Emyr Humphreys PEN Cymru yn 2020, a hi oedd beirniad Her Gyfieithu 2020.
Ers Ionawr 2021, mae'n Athro'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.