Emyr Humphreys

Emyr Humphreys

 Emyr Humphreys

Ganwyd Emyr Humphreys (1919-2020) ym Mhrestatyn, ac roedd yn un o nofelwyr pwysicaf Cymru. Cyhoeddodd dros ugain o nofelau, cyfrolau o straeon byrion a gwaith ffeithiol, ac fe’i disgrifiwyd gan y bard R. S. Thomas fel ‘the supreme interpreter of Welsh life.’

Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, ac yntau’n astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol a bu’n gweithio ar fferm cyn cael ei ddanfon i’r Dwyrain Canol a’r Eidal yn weithiwr cymorth yn 1944 ac 1946.

Wedi’r rhyfel bu’n gweithio fel athro, cynhyrchydd gyda’r BBC ac, yn hwyrach, fel darlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor cyn gadael i ganolbwyntio ar ei ysgrifennu yn 1972.

Mae ei waith yn ymwneud â daioni, a chydwybod gymdeithasol a gwleidyddol. Fe’i hanrhydeddwyd â sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Maugham Somerset am Hear and Forgive yn 1953, a Gwobr Hawthornden am A Toy Epic yn 1958. Enillodd hefyd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1992 am Bonds of Attachment, ac eto yn 1999 am The Gift of a Daughter. Yn ogystal, enillodd wobr gyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng Nghymru yn 2004. Ynghyd â rhyddiaith, mae’r awdur hefyd wedi troi ei law at farddoni ac ysgrifennu ffeithiol, yn cynnwys The Taliesin Tradition (1983) sy’n edrych ar hunaniaeth Cymru drwy lenyddiaeth a hanes Cymreig.

Detholwyd A Toy Epic ar gyfer rhestr clasuron modern Schwob. Bydd y nofel ymysg cyfrolau a gaiff eu hyrwyddo gan Schwob i gyhoeddwyr ar draws Ewrop sy’n debyg o fod â diddordeb mewn prynu hawliau cyfieithu.

Lansiwyd y Wobr Emyr Humphreys gan Wales PEN Cymru yn 2019 i ddathlu ei ganmlwyddiant.