Hywel Griffiths

Hywel Griffiths

Ewch i'r Wefan
 Hywel Griffiths

Mae Hywel Griffiths yn darlithio mewn Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd yn 2004 a 2007, y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008, a’r Gadair yn 2015.

Cafodd ei gasgliad o gerddi, Banerog (Y Lolfa, 2009) ei dewis ar gyfer rhestr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2010. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2011 yng nghategori Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd gyda’i nofel gyntaf i blant, Dirgelwch y Bont.

Cafodd ei wahodd gan y Gyfnewidfa Lên i fod yn rhan o brosiect Cadwyn Awduron Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Y Cyngor Prydeinig. Bu'n cydweithio gyda beirdd o Gymru ac o is-gyfandir India ar gyfieithiadau creadigol sydd bellach i'w gweld mewn atodiad arbennig i gylchgrawn Taliesin a gyhoeddwyd yn Awst 2013. Hywel hefyd oedd enillydd Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru yn 2011.

Golygodd y gyfrol Byw Brwydr (Barddas, 2013) sydd yn flodeugerdd o ganu gwleidyddol rhwng 1979 a 2013.

Mae ei gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth, Llif Coch Awst (Barddas, 2017), yn cynnwys hyd at 70 o gerddi, gan gynnwys ‘Gwe’, awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol 2015.

Cynnwys Cysylltiedig