Ifan Morgan Jones

Ifan Morgan Jones

 Ifan Morgan Jones

Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n ddirprwy olygydd ar gylchgrawn Golwg ac yn olygydd gwefan newyddion Golwg 360. Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2008. Cyhoeddodd ei nofel ffantasiol, Dadeni, yn 2017 a'r nofel agerstalwm (steampunk) gyntaf yn y Gymraeg, Babel, yn 2019. Cyhoeddir ei nofelau oll gan Y Lolfa. Bu'n feirniad ar gystadlaethau llên ffantasi yn Yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef yw sefydlydd Nation.Cymru, gwefan newyddion Gymreig annibynnol newydd sydd yn ceisio llenwi bwlch o ran darpariaeth newyddion di-duedd yng Nghymru.

Yn 2020, enillodd ei nofel Babel y goron driphlyg yn seremoni Llyfr y Flwyddyn, gan ennill y brif wobr, Llyfr y Flwyddyn, gwobr y categori Ffuglen, a gwobr Golwg360 Barn y Bobl.