Ifor ap Glyn

Ifor ap Glyn

 Ifor ap Glyn

Mae Ifor ap Glyn yn fardd ac yn ddarlledwr arobryn. Fe’i ganwyd yn Llundain i rieni Cymraeg ond mae bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; yn 1999 gyda chyfres o gerddi am oedolion sy’n dysgu Cymraeg, ac yn 2013 gyda cherddi’n ymateb i’r nifer o siaradwyr Cymraeg a nodwyd yng Nghyfrifiad 2011.

Yn 1996 ef oedd un o sefydlwyr cwmni teledu annibynnol Cwmni Da, ac mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr, cynhyrchydd a chyflwynydd.

Rhwng 2008-09, ef oedd Bardd Plant Cymru, ac ef yw Bardd Cenedlaethol Cymru ers 2016.

Mae ei waith wedi ei gyfieithu i dros ddwsin o ieithoedd, ac mae wedi perfformio mewn gwyliau barddonol ledled y byd. Yn ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Cuddle Call? (Carreg Gwalch, 2018), mae’r cyfieithiad Saesneg yn ymddangos ochr yn ochr â’r cerddi Cymraeg.

Mae ei gyfrolau eraill o farddoniaeth yn cynnwys Golchi Llestri Mewn Bar Mitzvah (Gwasg Carreg Gwalch, 1998), Waliau’n Canu (Gwasg Carreg Gwalch, 2011) a Tra bo Dau (Gwasg Carreg Gwalch, 2016).

Mae hefyd wedi cyhoeddi gweithiau hanesyddol megis ei antholeg am y Rhyfel Byd Cyntaf, Lleisiau’r Rhyfel Mawr (Gwasg Carreg Gwalch, 2008) a Canrif yn Cofio – Hedd Wyn (Gwasg Carreg Gwalch, 2017), yn ogystal â chyfrol sy’n egluro tarddiad geiriau Cymraeg - Hanes yr Iaith Mewn 50 Gair (Gwasg Carreg Gwalch, 2018).

(Llun: Rhys Llwyd)