Emilia Ivancu

Emilia Ivancu

 Emilia Ivancu

Mae Emilia Ivancu yn feirniad llenyddol, bardd a chyfieithydd. Mae hi’n dysgu Rwmaneg yn Poznań, Gwlad Pwyl, ac yn dal swydd ym Mhrifysgol Alba Lulia, Rwmania. Mae ei thraethawd doethuriaeth yn gyfraniad i ddisgyblaeth Astudiaethau Ôl-drefedigaethol, ac mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys Travels with Steinbeck in Search of America (2005), Dictionary of Lucian Blaga’s Theatrical Characters (cyd-awdur, 2005), The Birth of Trystan and Other Poems/Naşterea lui Tristan şi alte poeme (cyfieithydd a chydawdur gyda Diarmuid Johnson, 2010), The Romanian-Polish/Polish-Romanian Dictionary (cyd-awdur, 2011), Jocul de a nu fi mai mult decât sunt/Gra w to, aby nie być więcej niż jestem (2012) - cyfrol o farddoniaeth a gyfieithwyd i’r Bwyleg gan Tomasz Klimkowski a A Young Sun/ Un soare tânăr (2012) gan Diarmuid Johnson, cyfrol o farddoniaeth amlieithog, a gyfieithodd i’r Rwmaneg. Mae hi’n un o sylfaenwyr, ac yn ysgrifennydd, ar ARADOS, cymdeithas sy’n hybu traddodiadau telynegol o’r gwledydd Celtaidd, Rwmania a Gwlad Pwyl. Ar hyn o bryd mae Emilia Ivancu yn cyfieithu nofel O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price i’r Rwmaneg ac wrthi’n gweithio ar nifer o brosiectau cyfieithu barddoniaeth eraill, gan gynnwys cyfrol o faledi Llydaweg.