Jure Jakob

Jure Jakob

 Jure Jakob

Ganwyd Jure Jakob yn 1977 yn Celje, Slofenia. Astudiodd lenyddiaeth gymharol ym Mhrifysgol Ljubljana, lle mae bellach yn byw.

Cyhoeddodd dair cyfrol o farddoniaeth: Tri postaje/Tair Gorsaf, 2003; Budnost/Ar Ddeffro, 2006; Zapuščeni kraji/Llefydd Anghofiedig, 2010. Disgwylir ei bedwaredd cyfrol, Delci dela/Darnau o Waith, o'r wasg yn 2013. Derbyniodd ei gyfrol gyntaf wobr Zlata ptica a anrhydeddir i artistiaid ifanc am gyfraniad arbennig i'r byd celfyddydol. Cyfieithwyd y gyfrol i'r Groateg. Ceir detholiad hefyd o'i gerddi mewn Saesneg, Eidaleg, Almaeneg, Pwyleg, Serbeg a Hwngareg.

Mae'n awdur preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru fis Mai-Mehefin 2013, gyda chefnogaeth tŷ cyhoeddi Goga yn Slofenia.