Joe Dunthorne

Joe Dunthorne

Ewch i'r Wefan
 Joe Dunthorne

Cafodd Joe Dunthorne ei eni yn 1982 a'i fagu yn Abertawe. Mae wedi cyhoeddi casgliad o gerddi yng nghyfres Faber New Poets ac mae ei gerddi wedi cael eu cyflwyno ar Sianel 4 a BBC Radio 3. Mae wedi perfformio mewn gwyliau llenyddol megis Gŵyl y Gelli, Latitutde a Gŵyl Lyfrau Caeredin. Bellach yn byw yn Llundain, cafodd ei nofel gyntaf, Submarine, ei chyhoeddi yn 2008 ac mae eisoes wedi ei chyfieithu i nifer o ieithoedd a'i rhyddhau fel ffilm. Cafodd y nofel ei dewis ar gyfer rhest-hir gwobr Dylan Thomas. Ei nofel ddiweddaraf yw Wild Abandon, a ddewiswyd ar gyfer Cwpwrdd Llyfrau Hydref 2011 y Gyfnewidfa. Enillodd wobr Encore am ail nofel orau'r flwyddyn yn gynharach eleni ac mae newydd gael ei chyhoeddi yn yr Unol Dalieithiau. Mae hefyd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2012.