Mae John Barnie yn un o'r ffigurau llenyddol uchaf ei barch yng Nghymru, yn adnabyddus am ei gyfraniad creadigol a beirniadol. Mae wedi cyhoeddi nifer o gasgliadau o farddoniaeth, ffuglen ac ysgrifau. Enillodd The King of Ashes wobr Llyfr y Flwyddyn. Cyhoeddwyd nofel ar ffurf cerdd, Ice, ganddo yn 2001 (Gomer). Ymysg ei gyhoeddiadau diweddaraf mae Sea Lilies: Selected Poems 1984-2003 (Seren, 2006) a Trouble in Heaven (Gomer, 2007). Bu'n olygydd Plant am nifer fawr o flynyddoedd ac mae'n dal i fyw ger Aberystwyth. Mae'n perfformio gyda'r grŵp barddoniaeth a blŵs dwyieithog, Llaeth Mwnci Madog/Madog's Moonshine.