Aled Jones Williams

Aled Jones Williams

 Aled Jones Williams

Magwyd Aled Jones Williams ger Caernarfon, ac astudiodd ym Mhrifysgol Bangor, Coleg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Mae’n offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru, yn Brifardd, yn awdur ac yn ddramodydd y mae amryw o’i ddramâu wedi eu llwyfannu.

Roedd ei lyfr, Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2002, ac enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn. Mae ei bryddest fuddugol, ‘Awelon’, wedi ei chynnwys yn Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwthyn, 2010), ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, sy’n ymdrin â cholli ffydd ac alcoholiaeth.

Dewiswyd ei nofel Eneidiau ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru yn Hydref 2013, ac roedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2014. Dewiswyd ei nofel, Nostos (Gwasg Carreg Gwalch, 2018), hefyd i Silff Lyfrau 2018.

Bu ei ddrama, Anweledig, a ysbrydolwyd gan gofnodion meddygol o hen ysbyty iechyd meddwl Dinbych yng Ngogledd Cymru, ar daith gyda cwmni theatr Frân Wen yn 2019.
Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Y Wraig ar Lan yr Afon, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2020, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau yn 2021.

Mae rhai o’i gyhoeddiadau eraill yn cynnwys:

  • Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy hun (Gwasg Pantycelyn, 2001)
  • Ychydig Is Na’r Angylion (Gwasg y Bwthyn, 2006)
  • Yn Hon Bu Afon Unwaith (Gwasg y Bwthyn, 2008)
  • Iesu! (Gomer, 2008)
  • Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwthyn, 2010)
  • Tuchan o Flaen Duw (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)
  • Eneidiau (Gwasg Carreg Gwalch, 2013)
  • Duw yw’r Broblem (gyda Cynog Dafis)(Gwasg Carreg Gwalch, 2016)

Cynnwys Cysylltiedig