K. Satchidanandan

K. Satchidanandan

 K. Satchidanandan

Mae'r Athro K. Satchidananadan, cyn-Ysgrifennydd Sahitya Akademi (Academi Genedlaethol Yr India), yn fardd, beirniad, cyfieithydd a golygydd sy'n adnabyddus yn fyd-eang. Cyhoeddodd 22 casgliad o gerddi, 16 casgliad o gyfieithiadau, 20 cyfrol o feirniadaeth lenyddol gan gynnwys pedair yn Saesneg, 4 drama a 3 llyfr taith. Derbyniodd wobrau lawer yn genedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys gwobr Kerala Sahitya Akademi bedair gwaith, Medal Gyfeillgarwch India-Pŵyl, a gwobr gan lywodraeth Yr Eidal. Cyfieithwyd ei waith i dros 16 o ieithoedd, gan gynnwys Arabeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg. Golygodd wyth cyfnodolyn, gan gynnwys Indian Literature Sahitya Akademi, a chyfrolau mewn Malayalam, Saesneg a Hindi. Teithiodd yn fyd-eang, ac yn 2011 fe'i henwebwyd ar gyfer gwobr y Nobel.