Katica Garoska Acevska

Katica Garoska Acevska

 Katica Garoska Acevska

Ganwyd Katica Acevska yn Skopje, R. Macedonia. Graddiodd o Brifysgol Cyril & Methodius, Skopje, ar ôl astudio iaith a llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg. Mae hi’n cyfieithu o’r Saesneg, Ffrangeg, Serbeg, Croatieg a Bosnian – ffuglen, barddoniaeth, ysgrifau a straeon byrion yn bennaf. Mae hi wedi derbyn gwobr Golden Pen gan The Macedonian Association of Literary Translators ac mae hi wedi cael grant i fod yn awdur preswyl mewn canolfannau cyfieithu yn Lloegr, Gwlad Belg, Bosnia, Herzegovina a’r UDA, cyn iddi ddod i Gymru.

Mae hi wedi cyfieithu gwaith nifer o awduron adnabyddus gan gynnwys: Roald Dahl, J. D. Salinger, Arundhati Roy, Kenneth White, Gao Xingjian, Robert Graves, Philip Roth, D. H. Lawrence, Yukio Mishima, Marguerithe Yourcenar, Virginia Woolf, John Steinbeck, Henric Pontoppidan, Scott Fitzgerald, Fadila Nura Haver, Filip David, Mirko Kovac, Charles Dickens, Goran Samardzic a Snezana Bukal.

Yn ystod ei chyfnod preswyl yn Nhŷ Cyfieithu Cymru fis Ionawr 2013 bu’n cyfieithu gwaith Lewis Davies.

Mae gan Katica ddiddordeb mawr mewn mynydda a hi yw Prif Olygydd cylchgrawn Balkan Mountaineering.