Jyrki Kiiskinen

Jyrki Kiiskinen

 Jyrki Kiiskinen

Dechreuodd Jyrki Kiiskinen (1963) gyhoeddi barddoniaeth yn 1989. Bu'n brif olygydd y cylchgrawn Nuori Voima rhwng 1991 ac 1994 ac aeth ymlaen i fod yn brif olygydd Books from Finland rhwng 1996 a 2000. Mae ar hyn o bryd yn gweithio fel awdur llawn-amser. Roedd Jyrki Kiiskinen yn un o'r beirdd wnaeth sefydlu Living Poets' Society, ac aeth ymlaen i drefnu digwyddiadau llenyddol. Mae wedi cyhoeddi pum cyfrol o farddoniaeth a thair nofel. Fel awdur plant, cyhoeddodd Jänis ja Vanki yn 2000 (Y Sgwarnog a'r Carcharor). Ers hynny, mae wedi cyhoeddi pum cyfrol i blant (7-11 oed).