Robert Lewis

Robert Lewis

Ewch i'r Wefan
 Robert Lewis

Magwyd Robert Lewis yn y Mynyddoedd Du, ger Aberhonddu. Graddiodd fel myfyriwr aeddfed ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf The Last Llanelli train gan Serpent's Tail (2005). Cyrhaeddodd y dilyniant Swansea Terminal (Serpent's Tail, 2007) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2008, tra cyhoeddwyd yr olaf yn y gyfres Bank of the Black Sheep (Serpent's Tail) yn 2010.