Lloyd Jones

Lloyd Jones

 Lloyd Jones

Mae Lloyd Jones yn dod o Lanfairfechan yng Ngogledd Cymru. Mae ganddo gefndir gyrfaol amrywiol, gan gynnwys cyfnod yn gweithio ar fferm, fel darlithydd, a golygydd papur newydd. Fel rhan o'i 'driniaeth' ar ôl bod yn gaeth i alcohol, aeth ar daith o gylch Cymru, gan gerdded milltiroedd, a chysgu ble y gallai. Roedd ei gyfrol, Mr Vogel ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Bollinger Everyman Wodehouse, ac enillodd y wobr McKitterick. Dyfarnwyd gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007 i Mr Cassini.

Mae ei nofel Gymraeg gyntaf, Y Dŵr (Y Lolfa, 2009), yn nofel ddirdynol sy'n trafod effaith cynhesu byd-eang ar gymuned. Addaswyd y nofel i'r Saesneg gan yr awdur a'i chyoeddi dan y teitl Water (Y Lolfa) yn 2014.

Dewiswyd ei nofel ddiweddaraf, Fflur (y Lolfa, 2019), i'n Silff Lyfrau 2020–21.

Cyfieithiadau

Silff Lyfrau