Lloyd Markham

Markham, Lloyd

Ganwyd Lloyd Markham yn Johannesburg, De Affrica, cyn symud i Ben-y-bont ar Ogwr pan oedd yn dair ar ddeg. Treuliodd weddill flynyddoedd ei lencyndod yn ddiflas ac yn rhyfedd, gan gael nosweithiau allan wael cyn ymgymryd â BA mewn Ysgrifennu ym Mro Morgannwg, cyn mynd ymlaen i wneud MPhil. Mae’n mwynhau cerddoriaeth swnllyd, animeiddiadau Japaneaidd a rhaglenni dogfen Adam Curtis. Mae’n chwarae'r syntheseinwyr mewn band o’r enw Deep Hum ac mae’n cael llai o nosweithiau allan gwael bellach.

Dewisiwyd ei nofel gyntaf, Bad Ideas \ Chemicals (Parthian, 2017), ar gyfer Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa yn 2017. Mynychodd Lloyd lansiad cyfieithiad Arabeg o'r nofel yn Ffair Lyfrau Cairo fis Ionawr 2020

Fe’i dewiswyd yn un o bedwar awdur a chyfieithydd o Gymru i gymryd rhan yn rhaglen breswyl Ulysses’ Shelter 2020.

Gwyliwch Lloyd yn trafod ac yn darllen darn o'i nofel, Bad Ideas \ Chemicals, yma.

@lloyd_markham