Robin Llywelyn

Robin Llywelyn

Ewch i'r Wefan
 Robin Llywelyn

Ganed Robin Llywelyn yn 1958 yn Llanfrothen ger Penrhyndeudraeth yn Eifionydd, gogledd Cymru. Cafodd ei addysg yn Llanfrothen, Harlech ac yna astudio'r Gymraeg a'r Wyddeleg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n byw ym mhentref Eidalaidd Portmeirion a greuwyd gan ei dadcu, y pensaer Clough-Williams Ellis, ble mae'n Rheolwr Gyfarwyddwr.

Mae'n awdur tair nofel. Fe ennillodd y gyntaf, Seren Wen ar Gefndir Gwyn (Gomer, 1992), Fedal Rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru. Trobwynt yn hanes y nofel ddiweddar Gymraeg fu Seren Wen. Stori serch ydyw wedi'i lleoli mewn man lled afreal rhywbryd yn y dyfodol. Mae ôl ffantasi a lledrith ar y gwaith, mae'r ieithwedd yn un hynod, ac fe geir adlais cryf o ramantau'r oesoedd canol. Nofel wreiddiol iawn hefyd yw O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn (Gomer 1994), sef ail gyfrol Robin Llywelyn. Ar sail y nofel hon, fe anrhydeddwyd yr awdur drachefn â Medal Rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu gwobr Awdur y Flwyddyn y BBC yn anrhydedd bellach iddo yr un flwyddyn. Cyhoeddodd hefyd gasgliad o straeon byrion yn dwyn y teitl Y Dwr Mawr Llwyd (Gomer 1995).

Enillodd ei drydedd nofel Un Diwrnod yn yr Eisteddfod Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004. Dyma nofel fer sy'n cwmpasu 24 awr ym mywyd Wil Chips, milwr tua 30 oed o Stiniog, sydd newydd ddychwelyd o Irac. Mae Wil yn landio yn yr Eisteddfod ar y dydd Gwener olaf, yn cwrdd â ffrindiau, crwydro'r Maes, gwylio'r Cadeirio, meddwi, dawnsio a syrthio mewn cariad.