Mari Strachan

Mari Strachan

Ewch i'r Wefan
 Mari Strachan

Ganed Mari Strachan yn Harlech yn 1945. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Hanes a Saesneg, fe gafodd gymhwyster fel llyfrgellydd siartredig ac yn y maes hwn y bu'n dilyn ei gyrfa. Yn ddiweddar, fe gafodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Metropolitan Manceinion ac mae lleoliad stori ei nofel gyntaf, The Earth Hums in B Flat, er yn waith ffuglen, yn seiliedig ar ei hardal enedigol. Mae'r nofel bellach wedi ei chyfieithu i nifer fawr o ieithoedd. Mae ei hail nofel, Blow on a Dead Man's Embers wedi ei gosod yn y cyfnod yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. The Earth Hums in B Flat oedd Book at Bedtime BBC Radio 4 ym mis Ebrill 2009. Cafodd y nofel ei dewis gan Waterstones fel un o'i 'Lleisiau Newydd ar gyfer y Gwanwyn' ac fe enillodd wobr Amazon ar gyfer nofelwyr newydd yng ngwanwyn 2009.

Mae Mari yn byw yng Ngheredigion.

Fideos

Cynnwys Cysylltiedig