Marta Listewnik

Marta Listewnik

 Marta Listewnik

Mae Marta Listewnik yn Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań, Gwlad Pwyl. Graddiodd mewn Saesneg a'r Ieithoedd Celtaidd a chwblhaodd ei PhD ar Ieithyddiaeth y Gymraeg.

Bu hefyd yn astudio yn yr Ysgol Gyfieithu, Dehongli ac Ieithoedd ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz. Mae hi wedi cyfieithu’r clasur Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard i’r Bwyleg sef Jedna Księżycowa Noc (Officyna, 2017) yn ogystal â’r nofel ddystopia Y Dydd Olaf gan Owain Owain, atgofion rhyfel Pum Cynnig i Gymro gan John Elwyn Jones, Uciekałem pięć razy (Replika, 2017), a Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros, Niebieska Ksiega z Nebo (Pauza, 2020). Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar gyfrol o ddramâu Saunders Lewis yn y Bwyleg a fydd yn cynnwys Blodeuwedd, Siwan ac Esther.

Fis Ionawr 2014, ymunodd Marta â chyfieithwyr o Catalunya, yr Almaen, India a Romania ar gyfer taith breswyl Schwob a drefnwyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru, gan ganolbwyntio ar gyfieithu clasuron llenyddol modern o Gymru.