Maruša Krese

Maruša Krese

 Maruša Krese

Ganwyd Maruša Krese yn 1947 yn Ljubljana. Astudiodd seicotherapi yn Ljubljana, Llundain ac Utrecht. Rhwng 1975 ac 1989 gweithiodd fel seicotherapydd yn Ljubljana, Llundain a Tübingen. Rhwng 1990 ac 1991 bu'n newyddiadurwr yn Berlin ar ran radio Slofenia. Mae Maruša yn aelod o PEN, Yr Almaen ers 1998. Mae'n awdur barddoniaeth, straeon byrion, rhaglenni nodwedd a dramâu radio. Mae'n treulio llawer o'i hamser yn Berlin.

Yn 1997 enillodd wobr gan lywodraeth Yr Almaen am ei gwaith dyngarol yn rhyfel Bosnia. Yn 2005 enillodd ysgoloriaeth gan ddinas Graz (Awdur Dinas Graz).