Menna Elfyn

Menna Elfyn

 Menna Elfyn

Mae Menna Elfyn (b.1952) yn un o feirdd amlycaf Cymru. Mae'n byw yn Llandysul. Mae wedi cyhoeddi dros ugain o gyfrolau gan gynnwys Aderyn Bach Mewn Llaw (1990) a enillodd iddi wobr Llyfr y Flwyddyn; y gyfrol ddwyieithog, Eucalyptus: Detholiad o Gerddi/Selected Poems 1978-1994 gyda gwasg Gomer a Cell Angel yn 1996 gyda Bloodaxe. Cyhoeddodd hefyd nofelau i blant, dramâu llwyfan, radio a theledu, a libretti ar gyfer cyfansoddwyr yn yr Unol Dalieithiau a Phrydain. Yn 1999, cyfranodd at symffoni gorawl o'r enw 'Garden of Light' ar gyfer Cerddorfa Ffilarmonig Efrog Newydd a berfformiwyd yng Nghanolfan Lincoln Efrog Newydd.

Dyfarnwyd iddi wobr Cymru Greadigol yn 2008 i ysgrifennu cyfrol ar gwsg. Ar hyn o bryd, mae'n Gyfarwyddwr y Rhaglen Feistr ar gyfer Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant ac mae'n Gymrawd Llenyddol Prifysgol Abertawe. Yn Ebrill 2010, golygodd flodeugerdd o waith pedwar bardd benywaidd o Zimbabwe (Cinnamon Press).

Yn 2009, dyfarnwyd iddi wobr farddoniaeth ryngwladol Anima Istranza yn Sardinia. Ei chyhoeddiadau diweddaraf yw Perffaith Nam (Gomer, 2005) a Perffaith Nam/Perfect Blemish: New and Selected Poems 1995-2007 (Bloodaxe, 2007). Cyhoeddwyd Merch Perygl, Cerddi 1976-2011 gan wasg Gomer yn 2011.

Cyrhaeddodd ei chofiant i Eluned Phillips, Optimist Absoliwt (Gomer, 2016) restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016.