Hafan > Awduron > Pori awduron > Meredith, Christopher
Magwyd Christopher Meredith yn Nhredegar, ac mae’n nofelydd, bardd, a chyfieithydd. Mae ei gyfanwaith yn cynnwys pedair nofel, casgliad o straeon byrion, a phedwar casgliad o farddoniaeth. Enillodd Gwobr Eric Gregory (o’r Society of Authors) yn ogystal â Gwobr Llenor Ifanc Cyngor Celfyddydau Cymru yn 1984.
Cafodd ei nofel gyntaf, Shifts, ei ganmol yn eang, ac enillodd Gwobr Ffuglen y Cyngor Celfyddydau a chafodd ei ddewis ar restr fer y Wobr Greatest Welsh Novel gan y Wales Arts Review yn 2014. Mae ei waith yn aml yn cael eu dewis i'r restr Wobr Llyfr y Flwyddyn. Cyfieithodd Melog, sef un o nofelau Mihangel Morgan, o'r Gymraeg i'r Saesneg.
Mae Chris wedi siarad a thrafod ei waith mewn amryw ffeiriau llyfrau a gwyliau llenyddol ar draws Prydain ac Ewrop. Mae’n Gymrawd o’r Academi Gymreig a’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Athro Emeritws o ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol De Cymru ac yn byw erbyn hyn yn Aberhonddu.
Mae ei gasgliad o straeon byrion, Brief Lives, ar ein Silff Lyfrau ar gyfer 2018.