Morten Søkilde

Morten Søkilde

 Morten Søkilde

Mae'r bardd Morten Søkilde yn byw yn Copenhagen. Astudiodd mewn nifer o sefydliadau, gan gynnwys Academi Gelf Odense, Academi Gelf Freinhinol Copenhagen, Ysgol Awduron Denmarc ac Ysgol Comedia ar gyfer hyfforddiant theatr.

Mae cerddi Søkilde yn arbrofi gyda'r iaith Ddaneg, gan ddefnyddio, er enghraifft, ond dau neu dri llafariad ym mhob testun. Ei gyfrol gyntaf oedd Morten Søkilde 1974 – 2003, ac yna Pan a Landskabe. Enillodd wobr Klaus Rifbjergs Debutantpris 2007 – 2009 am y ddwy gyfrol hon.

Mae cyhoeddiadau eraill yn cynnws yr ysgrif 'Dybdens Forgrund' (Blaendir dyfnder) yn y cylchgrawn Daneg KRITIK 2009, sy'n delio gyda'r berthynas rhwng llenyddiaeth a'r celfyddyau gweledol. Hefyd yn 2009, cyhoeddodd Knuth Beckers Håndtryk gerdd epig ganddo fel cyfraniad i gyfres o ddeg cyfrol gan ddeg bardd.

Yn ogystal â'i brosiectau llenyddol, mae Søkilde wedi bod yn weithgar ym myd teledu. Am dri thymor yn 2007 a 2008, bu'n ymddangos yn gyson ar raglen fyw ar ddiwyllant Denmarc 'DEN 11. Time, DR2'. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys dawnsio tap a chwarae'r banjo 5 llinyn.