Karen Owen

Karen Owen

 Karen Owen

Bardd, newyddiadurwraig a darlledydd yw Karen Owen. Ganed ym Mangor yn 1974, ac fe’i magwyd ym Mhen-y-groes, yn ardal chwareli llechi Dyffryn Nantlle, Gwynedd lle y mae’n parhau i fyw. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Pen-y-groes ac Ysgol Dyffryn Nantlle, ac yna astudiodd Fathemateg Bur ym Mhrifysgol Cymru Bangor, cyn penderfynu y byddai’n well ganddi yrfa mewn newyddiaduraeth. Ymunodd â staff y cylchgrawn Cymraeg wythnosol Golwg fel Gohebydd Celfyddydau yn 1995, cyn dod yn olygydd y cylchgrawn yn 2000 – swydd y bu ynddi am saith mlynedd. Wedi treulio tair blynedd fel Cynhyrchydd Rhaglenni Crefyddol BBC Cymru ym Mangor (2007 – 2010), dychwelodd at y cyfryngau print yn Rhagfyr 2010 ac ar hyn o bryd y mae’n gweithio i’r papur Cymraeg Y Cymro, ond y mae hefyd yn ysgrifenwraig lawrydd.

Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, Yn Fy Lle yn 2006 a Siarad Trwy’i Het yn 2011, y ddwy gyda Chyhoeddiadau Barddas. Mae’n teithio Cymru a’r tu hwnt yn trafod a pherfformio’i gwaith, ac enillodd Ysgoloriaeth Goffa Winston Churchill yn 2011 i deithio yng Ngholombia, India, Iwcrain a De Affrica er mwyn astudio agweddau ar eu traddodiadau barddol. Bydd ei thrydedd gyfrol o farddoniaeth, Math (cerddi yn sylfaenedig ar fathemateg) yn cael ei chyhoeddi yn 2013 gan Wasg y Bwthyn. Fel un sy’n cynganeddu’n rhugl, y mae’n dysgu’r grefft mewn dosbarthiadau nos a gweithdai. Enillodd Karen nifer o gadeiriau a choronau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol, ac y mae’n feirniad eisteddfodol a llenyddol, ac yn cyfrannu at raglenni radio a theledu.

Darlledwyd ei rhaglen deledu ddogfennol, Cyfrinach Olaf Frida, yn seiliedig ar lofruddiaeth ei hen-hen-nain ar S4C yng Ngorffennaf 2009.

Cynnwys Cysylltiedig