Pascale Petit

Pascale Petit

Ewch i'r Wefan
 Pascale Petit

Ganwyd Pascale Petit ym Mharis, a magwyd hi yn Ffrainc ac yng Nghymru, ac mae hi bellach yn byw yn Llundain. Mae hi wedi cyhoeddi chwe chyfrol o farddoniaeth. Cyhoeddwyd ei chweched cyfrol, Fauverie, gan Seren fis Medi 2014. Enillodd portffolio o gerddi o’r llyfr hwn Wobr Barddoniaeth Manceinion 2013. Roedd ei pumed casgliad, What the Water Gave Me: Poems after Frida Kahlo, a gyhoeddwyd gan Seren yn 2010 (DU) a Black Lawrence Press yn 2011 (UD), ar restr fer ar gyfer Gwobr T.S. Eliot a Llyfr y Flwyddyn Cymru, a dyma oedd Llyfr y Flwyddyn Jackie Kay yn yr Observer. Roedd dau o’i llyfrau blaenorol, The Zoo Father a The Huntress, hefyd ar restr fer Gwobr T.S. Eliot ac yn Llyfrau’r Flwyddyn yn Atodlen Lenyddol y Times a’r Independent. Yn 2004 dewisodd Cymdeithas Llyfrau Barddoniaeth Petit fel un o Feirdd y Genhedlaeth Nesaf.