Eluned Phillips

Eluned Phillips

 Eluned Phillips

Ganwyd Eluned Phillips (1914 – 2009) yng Nghenarth, Ceredigion.

Hi yw’r unig ferch i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - yn gyntaf yn 1967 ac wedyn yn 1983 gyda phryddest am Ryfel y Malvinas / Falklands yn gefndir iddi.

Aeth i goleg yn Llundain ond ni pharhaodd gyda'i hastudiaethau oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny bu’n gweithio fel awdur llawrydd i gylchgronau Saesneg.

Trwy gysylltiad brawd i gyfeilles iddi symudodd maes o law i fyw a newyddiadura ym Mharis lle daeth i gysylltiad â Maurice Chevalier, Pablo Picasso ac Edith Piaf ymhlith eraill. Treuliodd gyfnod yn yr Unol Daleithiau hefyd ond gartref yng Nghymru mae'n cael ei chofio'n bennaf am ei champ.

Cyhoeddwyd ei bywgraffiad o Dewi Emrys yn 1971, ei chasgliad o gerddi, Cerddi Glyn-y-mêl, yn 1985, a’i hunangofiant, The Reluctant Redhead (Gomer) yn 2007.

Cyhoeddwyd bywgraffiad Menna Elfyn o Eluned Phillps, Optimist Absoliwt gan Wasg Gomer yn 2016.

Cyhoeddwyd ei nofel, Cyfrinachau, am y tro cyntaf gan Wasg Honno yn 2021, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau yn 2021. Mae’r nofel yn seiliedig ar ei pherthynas â Pêr, Llydawr ifanc y cyfarfu ag ef pan oedd yn byw ym Mharis.


IMAGE CREDIT: ©ANN EVANS