John Powell Ward

John Powell Ward

 John Powell Ward

Mae John Powell Ward yn fardd ac yn academydd o Loegr, sydd â chysylltiadau cryf â Chymru. Addysgwyd ef ym Mhrifysgolion Toronto, Caergrawnt a Chymru. Bu’n gyflwynydd cyson ar y rhaglen radio Poetry Now ac mae’n gyn-olygydd ar y cylchgrawn Poetry Wales. Mae’n awdur ar waith beirniadol ar Wordsworth ac R.S. Thomas, ynghyd ag eraill, ac yn olygydd ar y gyfres Border Lines. Mae hefyd wedi cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth. Mae John yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.