Caradog Prichard

Prichard, Caradog

Roedd Caradog Prichard (1904 – 1980) yn fardd ac yn nofelydd. Ganwyd a magwyd ef ym Methesda. Dechreuodd Prichard ei yrfa fel newyddiadurwr gyda phapurau newydd Cymraeg yng Nghaernarfon, Llanrwst a Chaerdydd, cyn symud i Lundain, lle y treuliodd lawer o’i fywyd. Ei waith mwyaf adnabyddus yw Un Nos Ola Leuad (1961).