Rachel Trezise

Trezise, Rachel

Ganwyd Rachel Trezise yng Nghwm Rhondda ym 1978. Astudiodd ym Mhrifysgol Morgannwg ac yn Limerick, Iwerddon. Roedd ei nofel gyntaf In and Out of the Goldfish Bowl (Parthian, 2000) yn un o enillwyr gwobr Orange Future Awards yn 2001. Yn 2002 fe'i gwahoddwyd i deithio i nifer o wyliau llenyddol yn Ewrop fel rhan o'r prosiect Scritture Giovani sy'n cyflwyno cenhedlaeth newydd o awduron Ewropeaidd. Yn 2006 enillodd wobr Dylan Thomas am ei chasgliad Fresh Apples. Dial M for Merthyr oedd ei thrydedd cyfrol - ysgrifol y tro hwn - a gyhoeddwyd yn 2007. Hefyd yn 2007, llwyfanwyd ei gwaith ar gyfer y theatr, I Sing of a Maiden. Cafodd ei drama gyntaf ar gyfer y radio Lemon Meringue Pie ei darlledu ar Radio 4 ym Medi 2008.

Ei nofel ddiweddaraf yw Sixteen Shades of Crazy (Blue Door, 2010), tra cyhoeddwyd casgliad o'i straeon byrion, Cosmic Latte (Parthian) yn 2013.  Yn yr un flwyddyn perfformiwyd ei drama Tonypandemonium gan National Theatre Wales.

Cyfieithwyd ei gwaith i nifer o ieithoedd, yn fwyaf diweddar i'r Serbeg, Eidaleg ac i'r Ddaneg.