Raymond Williams

Raymond Williams

 Raymond Williams

Roedd Raymond Williams (1921 - 1988) yn academig a nofelydd iaith Saesneg. Magwyd yn Y Pandy, Sir Fynwy, yn fab i weithiwr rheilffordd.

Yn ystod ei fywyd cynnar, gwelwyd newidiadau radical yng ngwleidyddiaeth Ewrop gyda Rhyfel Cartref Sbaen yn 1936 ac esgyniad Ffasgiaeth. Roedd yn aelod o Glwb Ddarllen yr adain chwith (Left Book Club), a ddarllenodd llyfrau gwleidyddol a sosialaidd. Cafwyd llawer o elfennau bywyd cynnar Williams o fyw mewn ardal wledig ond eto diwydiannol ei weddu gyda’i addysg Marcisaeth trwy gydol ei waith academaidd a llenyddol. Mae darluniau cryf yn ei waith yn cwestiynu ac archwilio cysyniadau o gymdeithas a chenedl.

Tra yr oedd yn astudio yng ngholeg y Drindod yng Nghaergrawnt, fe ymunodd a’r fyddin yn 1940.

Wedi’r rhyfel, parhaodd Williams gyda’i yrfa academaidd, gyda phwyslais ar ddiwylliant, yn arwyddocaol oedd ei draethodau ‘The Country and the City’ (1973) a ‘Marxism and Literature’ (1977).

O ran ei waith llenyddol, ysgrifennodd chwe nofel, tair drama, a sawl stori fer.

Ar ôl iddo ymddeol o’i waith addysgu ym mhrifysgol Caergrawnt, aeth i fyw yn Saffron Walden, lle buodd wrthi’n ysgrifennu nofel hanesyddol, People of the Black Mountains.

Sefydlwyd Cymdeithas Raymond Williams yn 1989 i drafod a datblygu ei waith.