Alastair Reynolds

Alastair Reynolds

 Alastair Reynolds

Mae Alastair Reynolds (g. 1966) yn awdur ffug-wyddoniaeth.

Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yng Nghernyw, yna symudodd yn ôl i Gymru cyn symud i Newcastle, lle yr astudiodd ffiseg ac astronomeg. Wedi hynny, enillodd ddoethuriaeth o Brifysgol St Andrews, yn yr Alban. Yn 1991, symudodd i Noordwijk yn yr Iseldiroedd ble y gweithiodd i’r Ganolfan Dechnoleg ac Ymchwil y Gofod Ewropeaidd, rhan o’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, tan 2004 pan adawodd er mwyn ysgrifennu’n llawn amser. Dychwelodd i Gymru yn 2008 ac mae’n byw ger Caerdydd.

Enillodd ei ail nofel, Chasm City, y Wobr Ffuglen Wyddonol Brydeinig ar gyfer Nofel Orau yn 2001. Enwebwyd Reynolds ar gyfer Gwobr Arthur C. Clarke deirgwaith, ar gyfer ei nofelau Revelation Space, Pushing Ice a House of Suns. Yn 2010, enillodd y Wobr Sidewise ar gyfer Hanes Amgen am ei stori fer ‘The Fixation’. Cyrhaeddodd ei nofel fer Troika rhestr fer Gwobrau Hugo 2011, a chyrhaeddodd ei nofel Terminal World (Gollancz, 2010) rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2011.