Francesca Rhydderch

Rhydderch, Francesca

Cyrhaeddodd nofel gyntaf Francesca Rhydderch, The Rice Paper Diaries, ar restr hir Gwobr Nofel Gyntaf Orau Clwb yr Awduron, ac enillodd y nofel y Wobr Ffuglen Orau yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2014. Roedd hi hefyd ar restr fer Gwobr Genedlaethol Stori Fer y BBC yn yr un flwyddyn am ei stori The Taxidermist’s Daughter. Bu’n cyd-olygu New Welsh Short Stories gan wasg Seren gyda Penny Thomas yn 2015, a chaiff ei chyfieithiad Saesneg o’r clasur modern, Tywyll Heno, gan Kate Roberts ei gyhoeddi gan wasg Parthian yn 2018.

Mae ei phrosiectau diweddar eraill yn cynnwys drama Gymraeg, Cyfaill, a oedd ar restr fer sawl categori yng Ngwobrau Critics Theatr Cymru 2014, gan gynnwys y Dramodydd Cymraeg Gorau.

Mae Francesca yn Athro Cysylltiol ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg & Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe er 2015.