Kate Roberts

Kate Roberts

 Kate Roberts

Mae Kate Roberts yn un o hoelion wyth llên Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Cafodd ei geni a'i magu yn Rhosgadfan, Caernarfon pan oedd gwaith y chwareli ar ei anterth. Fe fabwysiadodd iaith y fro yn ei hysgrifau gan ei chyfuno â Chymraeg llenyddol i greu ieithwedd arbennig. Bu yn athrawes cyn priodi yn 1928 a symud i Dde Cymru am rai blynyddoedd. Fe brynodd hi a'i gŵr Wasg Gee ac ymsefydlu yn Ninbych yn y Gogledd. Bu farw ei gŵr yn 1946, ond ni ollyngodd hi ei gafael ar y wasg. Yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel bu yn cyfrannu yn gyson hefyd i'r Faner. Mae ei gwaith yn adlewyrchu dau wahanol gyfnod. Mae cymdeithas troad y ganrif yn destun i'w gwaith cynnar. Darlunio tlodi y bobl y mae ond dangos fel y gallasant gadw ffydd a chydweithio er mwyn dod â deupen ynghyd. Y mae'r ail gyfnod yn nodweddu unigrwydd dyn mewn byd cymharol gyfoethog. Yn osgystal ag am ei nofelau a'i straeon byrion, cofiwn Kate Roberts heddiw hefyd am ei gweithredu a'i hamlygrwydd gwleidyddol, ac am ei hysgrifau beirniadol.