Robin Ngangom

Ngangom, Robin

Ganed Robin Ngangom yn 1959 yn Imphal, India, 'theatr anghofiedig yr Ail Ryfel Byd', a bellach mae'n dysgu llenyddiaeth ym Mhrifysgol North-Eastern Hill, Shillong, India. Mae'n fardd a chyfieithydd dwyieithog sy'n ysgrifennu mewn Saesneg a Manipuri, ac mae'n ffigwr o bwys yn llenyddiaeth gogledd-ddwyrain India. Bu'n rhan o weithdai cyfieithu creadigol y Gadwyn Awduron a drefnwyd gan y Gyfnewidfa Lên yng Nghymru ac yn India, a gellir darllen ei waith yn Gymraeg wedi ei gyfieithu gan Karen Owen a Hywel Griffiths yn yr atodiad arbennig Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd: India a gyhoeddwyd mewn partneriaeth â chylchgrawn Taliesin yn Awst 2013.