Bernice Rubens

Bernice Rubens

 Bernice Rubens

Ganwyd Rubens yng Nghaerdydd yn 1923. Addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd i Ferched Caerdydd cyn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, lle yr enillodd radd BA yn 1947. Bu Rubens yn dysgu mewn ysgol ramadeg yn Birmingham ac yna yn Llundain, cyn symud ymlaen i’r diwydiant ffilmiau lle y gweithiodd ar raglenni dogfen. Mae nifer o’i nofelau wedi eu seilio ar ei phlentyndod teuluol Iddewig yng Nghaerdydd. Enillodd ei phedwaredd nofel, The Elected Member, Wobr Ffuglen Booker yn 1970.