Ruth Richards

Ruth Richards

 Ruth Richards

Daw Ruth Richards o Fôn. Bu'n astudio Hanes Celf ym Mhrifysgol Sussex, a blynyddoedd lawer yn ddiweddarach, cwblhaodd gwrs M.A. Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Pantywennol (Y Lolfa) yn 2016, a chyfrol a straeon byrion, Pobol i'w Hosgoi (Gwasg y Bwthyn) yn 2017. Detholwyd Pantywennol ar gyfer Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa yn 2017. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Siani Flewog, gan y Lolfa yn 2018.

Mae'n gweithio i'r mudiad lobïo, Dyfodol i'r Iaith, ac yn astudio ffotograffiaeth a llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor