Sampurna Chattarji

Sampurna Chattarji

Ewch i'r Wefan
 Sampurna Chattarji

Ganwyd Sampurna Chattarji yn 1970 yn Yr Affrig, ac fe'i magwyd yn Darjeeling. Aeth i'r Brifysgol yn New Delhi a gweithiodd am saith mlynedd yn y byd hysbysebu yn Kolkata a Mumbai cyn troi at ysgrifennu yn llawn-amser.

Mae Sampurna yn fardd, nofelydd, hefyd yn awdur llyfrau plant, ac yn gyfieithydd. Cyhoeddodd wyth cyfrol, gan gynnwys y ddwy gyfrol farddoniaeth Sight May Strike You Blind (2007) ac Absent Muses (2010), a'r nofel Rupture (2009). Dewiswyd ei gwaith ar gyfer The Bloodaxe Book of Contemporary Indian Poets (Bloodaxe, UK) a The HarperCollins Book of Modern English Poetry by Indians. Ailgyhoeddwyd ei chyfieithiad o'r Bengali o farddoniaeth a rhyddiaeth Sukumar Ray, Abol Tabol: The Nonsense World of Sukumar Ray yn 2008 gan Puffin Classic yn dwyn y teitl Wordygurdyboom!

Dechreuodd gyfieithu i'r Bengali yn dilyn ei phrofiad mewn gweithdai cyfieithu Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn 2009 a 2010. Cyfieithwyd ei gwaith i nifer o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg, gyda chyfieithiadau i ymddangos fel rhan o atodiad arbennig Taliesin gan feirdd y Gadwyn Awduron yn 2013.