Siân Melangell Dafydd

Siân Melangell Dafydd

 Siân Melangell Dafydd

Mae Siân Melangell Dafydd yn awdur, yn fardd ac yn gyfieithydd. Enillodd ei nofel gyntaf, Y Trydydd Peth (Gomer, 2009), y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2009 yn Y Bala.

Hanes celf yw ei chefndir a bu'n gweithio mewn orielau yn Llundain a thramor cyn mynd ati i wneud gradd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol East Anglia yn Norwich. Bu hefyd yn gyd-olygydd ar y cylchgrawn llenyddol Taliesin.

Mae hi'n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn aml yn cydweithio gydag awduron a beirdd yn rhyngwladol i gyfieithu llenyddiaeth rhwng ieithoedd lleiafrifol.

Bu'n cymryd rhan yn y prosiect Cysylltiadau Barddonol India-Cymru, a drefnwyd gan Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a phartneriaid, i nodi 70 mlwyddiant o annibyniaeth i India.

Dewisiwyd ei nofel ddiweddaraf, Filò (Gomer, 2019), i'n Silf Lyfrau 2020–21. Gwyliwch Siân yn trafod ac yn darllen darn o'r nofel yma.

Cyfieithiadau