Steven Hitchins

Steven Hitchins

 Steven Hitchins

Bardd yw Steven Hitchins (1983), sy’n hanu o Rhondda Cynon Taf, a raddiodd gyda B.A., M.A. a PhD mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Aberystwyth. Mae ei brofiad fel athro Saesneg wedi ffurfio sylfaen ar gyfer yr agweddau cydweithredol yn ei farddoniaeth.

Yn fardd lleol, o ran ei berthynas gyda lle a’i amgylchedd, mae ei farddoniaeth yn cynnwys proses o arsylwi a chydnabod hanes a phrosesau daearegol ac ieithyddol yr ardal.

Cyhoeddwyd ei farddoniaeth yn helaeth mewn cyhoeddiadau fel The Literary Pocket Books, Poetry Wales, Fire, Chimera, ac mae’n cydweithio yn aml â beirdd ac artistiaid eraill o Gymru.

Fe’i dewiswyd yn un o bedwar awdur a chyfieithydd o Gymru i gymryd rhan yn rhaglen breswyl Ulysses’ Shelter 2020.