Tessa Hadley

Tessa Hadley

 Tessa Hadley

Cafodd Tessa Hadley ei geni ym Mryste ac astudiodd Saesneg yng Nghaergrawnt. Mae'n awdur pedair nofel, gan gynnwys Accidents in the Home, a oedd ar restr hir y Guardian First Book Award ac Everything Will Be All Right. Mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn dysgu Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa. Mae ei straeon yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd mewn cylchgronau, e.e. The New Yorker a Granta. Cafodd casgliad o straeon, Sunstroke, dderbyniad arbennig o wresog. Cyhoeddwyd ei thrydedd nofel, The Master Bedroom gan Jonathan Cape yn 2007, a'i nofel, The London Train, gan yr un cyhoeddwr yn 2011. Cyhoeddwyd casgliad o straeon byrion, Married Love, yn 2012. Roedd ei nofel, Clever Girl (Jonathan Cape, 2013) ar rest fer Llyfr y Flwyddyn 2014.

Darllenwch gyfweliad y New Yorker gyda Tessa Hadley yma.

Darllenwch yma adolygiad yn y Guardian o'i chyfrol ddiweddaraf, Married Love.

Cyfieithiadau