Anitha Thampi

Anitha Thampi

 Anitha Thampi

Ganwyd Anitha Thampi yn 1968 ac mae hi’n byw yn Thiruvananthapuram, yn ne India, yn nhalaith Keralam. Mae hi’n cyhoeddi barddoniaeth ym Malayalam er 1987 a chyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o gerddi, Muttamadikkumpol (‘Ysgubo’r Iard Flaen’), yn 2004. Dilynodd ei hail gasgliad, Azhakillaathavayellam (‘Y cyfan sy’n amddifad o harddwch’), yn 2010. Mae ei chyfieithiadau yn cynnwys gwaith y bardd o Awstralia Les Murray, a gyhoeddwyd mewn rhifyn dwyieithog yn 2007. Mae ei gwaith ei hun wedi ei gyfieithu i Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Swedeg ac ieithoedd Indiaidd: Tamil, Kannada, Bengali, Marathi, Hindi, Assamese, Oriya a Gujarati. Ar hyn o bryd mae hi’n byw yn Mumbai lle y mae hi’n gweithio fel cymrawd ymchwil yn IIT Bombay. Gwahoddwyd Anitha gan y Gyfnewidfa i gymryd rhan mewn gweithdy cyfieithu creadigol a drefnwyd yn rhan o brosiect Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cadwyn Ysgrifennwyd Cyngor Prydain yn 2011. Gellir darllen cyfieithiadau o’i gwaith yn Gymraeg mewn rhifyn arbennig a gyhoeddwyd gan y Gyfnewidfa mewn partneriaeth â’r cylchgrawn llenyddol, Taliesin.

Cynnwys Cysylltiedig