R. S. Thomas

Thomas, R. S.

Ganed R.S. Thomas (1913-2000) yng Nghaerdydd ac fe'i magwyd ar Ynys Cybi ger Ynys Môn. Cafodd ei ordeinio yn 1936 a bu yn bugeilio yng nghefn gwlad yn ystod ei yrfa fel gweinidog. Yn 1942 fe'i penodwyd yn rheithor ym mhlwyf Manafon, Sir Drefaldwyn, ac fe arhosodd yno am bedair blynedd ar ddeg cyn symud i Eglwys Fach ger Machynlleth. Yn Eglwys Fach y bu nes symud yn 1967 i Aberdaron.

Mae gwaith R.S. Thomas yn ffrwyth hanner canrif o lafur sydd yn cynnwys dros fil o gerddi ac ugain cyfrol. Mae ei waith cynnar yn adlewyrchu bywyd ym Manafon. Mae ei ddarluniau yn ddigyfaddawd ac yn hallt ac mae ei arddull yn ddiarddurn ac yn dreiddgar. Erbyn symud i Eglwys Fach y mae thema cenedlaetholdeb yn magu pwysigrwydd. Yn ystod yr amser a dreuliodd yn Eglwys Fach, bu R.S. Thomas yn gloywi ei Gymraeg ac yn y Gymraeg yr ysgrifennodd ei hunangofiant Neb. Yn ystod chwarter canrif olaf ei fywyd, bu'n dwys ystyried ystyr duwioldeb, a'r ffyrdd y gellir canfod a mynegi duwioldeb. Diau fod R.S. Thomas yn un o feirdd Saesneg mwyaf yr ugeinfed ganrif.