Tom Bullough

Tom Bullough

Ewch i'r Wefan
 Tom Bullough

Cafodd Tom Bullough ei fagu ar fferm fynydd yn Sir Fynwy - lleoliad ei ail nofel, The Claude Glass a enillodd le ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2008. Mae bellach yn byw yn y Bannau. Yn ogystal ag ysgrifennu ffuglen mae wedi gweithio fel newyddiadurwr cerdd gan arbenigo yng ngherddoriaeth de cyfandir yr Affrig. Cafodd ei nofel gyntaf, A, ei chyhoeddi yn 2002 gan yr un cyhoeddwr, Sort Of Books.

Cyhoeddwyd ei drydedd nofel, Konstantin, yn 2012, gan Penguin Viking. Gosodir Konstantin yn 1867 yn Ryazan, sef dinas ar lanau'r afon Oka yng nghanol Rwsia. Mae'r nofel yn ymdrin â rhyfeddodau Oes y Stêm ac mae'n adrodd stori'r person cyntaf i ddatgelu sut y gallai teithio yn y gofod fod yn bosib.

Detholwyd ei nofel Addlands (Granta, 2016) i Silff Lyfrau 2016-17 Y Gyfnewidfa.