Marged Tudur

Marged Tudur

 Marged Tudur

Mae Marged Tudur yn fardd, yn awdur ac yn olygydd o Forfa Nefyn, sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Graddiodd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol, a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth.

Mae’n aelod o dîm Talwrn Dros yr Aber.

Roedd hi’n un o olygyddion y gyfrol Rhywbeth i’w Ddweud (Cyhoeddiadau Barddas, 2017), sy’n gyfrol amlgyfrannog yn trafod caneuon gwleidyddol.

Yn 2020 cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Mynd (Gwasg Carreg Gwalch), sy’n trafod y profiad o golli ei brawd. Enillodd y gyfrol wobr Llyfr y Flwyddyn 2021 yn y categori Barddoniaeth ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau 2021.

[Llun: Aled Rhys Jones]