Judith Musker Turner

Judith Musker Turner

Ewch i Wefan
 Judith Musker Turner

Mae Judith Musker Turner yn fardd ac arlunydd tecstiliau o Ffair Rhos, Ceredigion, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2019. Mae hi’n perfformio gyda’r grŵp barddol Cywion Cranogwen ac yn nosweithiau Bragdy’r Beirdd. Mae hi wedi cyhoeddi cerddi yn Y Stamp a Barddas ac mae hi'n aelod o dîm Talwrn Y Gwenoliaid. Yn ddiweddar, arddangosodd ei gwaith celf yn rhyngwladol am y tro cyntaf yn Suns Europe, gŵyl ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd yn Udine yn yr Eidal.

Llun: Felix Cannadam