Samantha Wynne-Rhydderch

Wynne-Rhydderch, Samantha

Magwyd Samantha Wynne-Rhydderch yng Nghei Newydd. Astudiodd y Clasuron yng Nghaergrawnt ac yna M.A. mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu’n byw yn Rhydychen, Ffrainc ac Ynysoedd Sili cyn dychwelyd i Gei Newydd. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o gerddi, Rockclimbing in Silk, gan Seren yn 2001. Enillodd ysgoloriaeth Hawthornden yn 2005 a’i chasgliad newydd, Not in These Shoes, ar gyfer Picador (2008), yw ffrwyth y llafur hwn. Cafodd y gyfrol ei dewis ar gyfer rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2009. Cyhoeddwyd casgliad newydd, Banjo yn 2012 (Picador). Enillodd cerdd o'r casgliad ail wobr y National Poetry Competition 2011.

Mae cerddi Samantha wedi ymddangos yn The Guardian, The Independent, Agenda, Poetry Wales, Poetry London, ac yn y Forward Anthology 2002 a 2009. Mae wedi ennill gwobrau am ei gwaith gan y Society of Authors (2007) a Llenyddiaeth Cymru (1997 a 2002). Yn 2012 enillodd wobr Leverhulme Artist in Residence i gydweithio gyda'r Amgueddfa Wlan Genedlaethol.  Cyhoeddwyd y gwaith Lime & Winter ddatblygwyd drwy'r preswyliad gan Rack Press yn 2014. Ym mis Mehefin 2014 bu Samantha yn fardd preswyl Cartref Dylan Thomas yn Talacharn.