Samantha Wynne-Rhydderch

Samantha Wynne-Rhydderch

Ewch i'r Wefan
 Samantha Wynne-Rhydderch

Mae Samantha Wynne-Rhydderch yn fardd y mae ei gwaith wedi cyrraedd rhestrau byrion Gwobr Michael Marks (2014), Gwobr Roland Mathias (2013), a Llyfr y Flwyddyn (2009). Bu Samantha’n dysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Rhydychen ac ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, lle y derbyniodd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2019.

Yn 2018 bu Samantha yn cydweithio gyda’r gyfansoddwraig a’r cynhyrchydd Dr Nina Perry i ysgrifennu a pherfformio yn The Milk Way ar gyfer BBC Radio 3, ac yn yr un flwyddyn cyhoeddodd bamffled am gerdded, ‘Ling Di Long’.

Yn 2012 Samantha oedd awdur preswyl Leverhulme yn Amgueddfa Wlân Cymru ac yn 2014 bu’n preswylio yn y ‘Dylan Thomas Boathouse’ i nodi canmlwyddiant geni’r bardd.

Derbyniodd Gymrodoriaeth Hawthornden, ac mae ei cherddi wedi eu cyhoeddi yn Agenda, The Compass Magazine, Granta, the Financial Times, the Independent, Magma, New Welsh Review, Planet, Poetry London a Poetry Wales.

Ar hyn o bryd mae Samantha yn astudio yn y Sorbonne ac yn ysgrifennu ei chasgliad nesaf. Cyhoeddwyd ei gwaith diweddaraf yn rhifyn gwanwyn 2021 Poetry Wales.