Wiliam Owen Roberts

Wiliam Owen Roberts

 Wiliam Owen Roberts

Cafodd Wiliam Owen Roberts ei eni ym Mangor yn 1960. Yn un o nofelwyr pwysicaf yr iaith Gymraeg, mae wedi cyhoeddi hefyd yn helaeth ar gyfer y theatr a'r teledu. Yn Bingo, ei nofel gyntaf (1985), y clywn lais y llenor am y tro cyntaf.

Yn Y Pla (Annwn, 1987), daw holl rym ei ddychymyg i'r amlwg, mewn nofel uchelgeisiol wedi ei lleoli yng Nghymru, y Dwyrain Agos, a chyfandir Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae Hunangofiant (1990) yn ymateb i'r dioddefaint a gafwyd o dan Thatcher. Hwyrach mai Paradwys (Barddas, 2001), stori fywiog wedi'i lleoli yn y ddeunawfed ganrif, yw ei waith mwyaf gogoneddus hyd yn hyn.

Fe enillodd ei nofel Petrograd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2009. Detholwyd Paris yr ail nofel yn y triawd i restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2014. Yn yr un flwyddyn dyfarnwyd grant cyfieithu i Paris gan English PEN drwy'r cynllun PEN Translates. Mae Wiliam Owen Roberts yn byw yng Nghaerdydd.

Fideos