'Ai gwallgofrwydd oedd o, cymylau henaint yn tynnu pethau ddoe yn ddigon agos i'w cyffwrdd, i'w harogli, i'w blasu?' Wrth edrych yn ôl ar ei bywyd, a'r teulu a'r ffrindiau a fu'n gwmni iddi ar hyd y daith, daw blasau o'r gorffennol i brocio atgofion Pegi. Ond nid yw pob atgof yn felys, ac mae rhai cyfrinachau'n gadael blas chwerw.
Enillydd Ffuglen Cymraeg: Llyfr y Flwyddyn 2013
"Mewn byd lle mae greddfau naturiol yr unigolyn yn pylu, mae hon yn nofel sy’n ymdrin â sawl ysfa gyntefig sy’n ddwfn yn y ddynoliaeth."
Catrin Beard